Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Medi 2020
Amser:
09.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Graeme Francis - Clerc y Pwyllgor
Kayleigh Imperato – Dipwrwy Glerc
0300 200 6565373
Deisebau@senedd.cymru
------
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae'r Cadeirydd wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor at ddibenion diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant
09:00 (Tudalennau 1 - 45)
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
Item 2
3 Dadl ar ddeisebau - Trafodaeth breifat
(Tudalennau 46 - 49)
4 Deisebau COVID-19
09.15
4.1 P-05-987 Dylid diweddaru’r canllawiau fel bod Canolfannau Hapchwarae i Oedolion, sy'n fusnesau teuluol, yn gymwys ar gyfer Grantiau
(Tudalennau 50 - 57)
4.2 P-05-991 Sicrhewch fod sticer ar gael i ddangos eich bod yn byw yng Nghymru
(Tudalennau 58 - 60)
4.3 P-05-993 Gwnewch y sector manwerthu’n gwbl hygyrch i bobl anabl
(Tudalennau 61 - 70)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd (4.4 a 4.5)
4.4 P-05-998 Dylid gorfodi gwisgo mygydau a gorchuddion wyneb mewn siopau
(Tudalennau 71 - 75)
4.5 P-05-1005 Sicrhau nad yw gwisgo mygydau mewn siopau yn dod yn orfodol
(Tudalennau 76 - 78)
4.6 P-05-999 Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020
(Tudalennau 79 - 86)
5 Deisebau Covid-19 newydd sydd eisoes wedi'u datrys
5.1 P-05-994 Caniatáu i adeiladau eglwysi ailagor – er enghraifft, ar gyfer addoli ar y cyd
(Tudalennau 87 - 90)
5.2 P-05-1004 Caniatáu i Ysgolion Dawns yng Nghymru ailagor ar unwaith ar gyfer gwersi dan do
(Tudalennau 91 - 94)
5.3 P-05-1019 Dyfarnwch raddau a ragwelwyd gan athrawon i holl fyfyrwyr Cymru ar gyfer arholiadau 2020
(Tudalennau 95 - 98)
6 Deisebau newydd
6.1 P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU
(Tudalennau 99 - 109)
6.2 P-05-992 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu
(Tudalennau 110 - 122)
6.3 P-05-1000 Ei gwneud yn orfodol i hanesion pobl dduon a POC y DU gael eu haddysgu yng nghwricwlwm addysg Cymru
(Tudalennau 123 - 133)
6.4 P-05-996 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â symud, difrodi na dinistrio unrhyw symbolau hanesyddol yng Nghymru
(Tudalennau 134 - 140)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd (3.5 a 3.6):
6.5 P-05-1001 Cynnal ymchwiliad annibynnol i'r dewis o safle ar gyfer y Ganolfan Ganser Velindre newydd arfaethedig
(Tudalennau 141 - 160)
6.6 P-05-1018 Cefnogaeth ar gyfer y cynlluniau arfaethedig presennol i adeiladu Canolfan Ganser Felindre newydd yng Nghaerdydd mewn unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol
(Tudalennau 161 - 165)
6.7 P-05-1002 Dylid rhoi seibiant treth stamp o ran pob ty sy’n cael ei brynu yng Nghymru
(Tudalennau 166 - 175)
6.8 P-05-1003 Mynnu Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol nawr ynghylch gwaredu mwd wedi’i halogi’n radiolegol yn nyfroedd Cymru
(Tudalennau 176 - 205)
7 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
7.1 P-05-962 Diwygiad brys i ymestyn yr oedran y ceir hawl i gymorth addysgol ychwanegol o 25 i 26 ac i ddiffinio pandemig Covid-19 yng nghanllawiau'r Llywodraeth fel amgylchiad eithriadol
(Tudalennau 206 - 210)
7.2 P-05-967 Annog LlC i ddiwygio ei pholisi ar ryddhad ardrethi annomestig i helpu gadw siopau Debenhams ar agor
(Tudalennau 211 - 215)
7.3 P-05-970 Gofynnwch i’r Senedd ailystyried ei phenderfyniad i beidio â rhoi cyllid brys i swau ac acwaria
(Tudalennau 216 - 218)
Bydd y ddwy eitem a ganlyn yn cael eu trafod ar y cyd (7.4 a 7.5):
7.4 P-05-981 Caniatáu i gampfeydd a chanolfannau hamdden ailagor
(Tudalennau 219 - 222)
7.5 P-05-986 Caniatáu i gampfeydd bach a safleoedd hyfforddi personol agor yn gynt yn ystod cyfyngiadau COVID
(Tudalennau 223 - 226)
7.6 P-05-979 Mabwysiadu polisïau llywodraeth y DU o ran llacio’r cyfyngiadau symud
(Tudalennau 227 - 231)
7.7 P-05-983 Rhowch gymorth grant i fusnesau Gwely a Brecwast yng Nghymru sy'n talu’r dreth gyngor ac nid ardrethi busnes
(Tudalennau 232 - 233)
7.8 P-05-984 Dylid rhoi’r gorau i ymgynghoriadau o bell sy’n gwahaniaethu o ran ceisiadau llosgyddion yn ystod y pandemig Covid-19
(Tudalennau 234 - 238)
7.9 P-05-985 Darparu gofal plant i weithiwr allweddol sy'n cyfateb i'r hyn a oedd ar gael cyn pandemig Covid-19
(Tudalennau 239 - 247)
7.10 P-05-988 Rhowch fynediad cyfartal at eu hysgolion a’u hathrawon i blant gweithwyr allweddol
(Tudalennau 248 - 254)